Dydd San Ffolant

Dydd San Ffolant

Os fyddwchi’n trulio Dydd San Ffolant efo eich partner, plant neu ffrindiau, dyma rai syniadau i chi!

Rhannwch y swydd hon ar eich hoff rwydwaith cymdeithasol!
Facebook
Twitter
LinkedIn

Bwyd

Gallwch drawsnewid unrhyw bryd gan ei wneud mewn i siap calon

Stampiau Tatws

Beth am drio gwneud stamps eich hunain gan ddefnyddio TATWS (neu unrhyw lysiau caled)

Gallwch ddefnyddio unrhyw siap hefyd, rydym ni wedi defnyddio calon ar gyfer San Ffolant!

Rhowch y siap mewn paent a’i stampio ar bapur, beth am drio gwneud cerdyn eich hun?

Bynting

Addurniadau hawdd gan ddefnyddio pethau sydd yn y ty yn barod.

Beth am wneud bynting i addurno eich ty?

Defnyddiwch unrhyw bapur sydd ganddo chi, boed hynny yn bapur gwyn neu lliw. Gallwch liwio eich calonnau eich hunain (os nad oes ganddo chi linyn beth am ddefnyddio criau sgidiau?)

Lliwio

Argraffwch y llun yma, neu beth am greu un eich hunain?

os ydych yn cael trafferth argraffu, gyrrwch ebost i info@dragonwales.co.uk i gael copi PDF