👨🍳 Dathlu Sul y Tadau gyda Dragon – Barbeciw Cymreig a Chystadleuaeth ffantastig!🔥🐉
Mae Sul y Tadau yn agosáu’n gyflym – ac os ydych chi’n pendroni beth mae Dad wir eisiau eleni, dyma’r ateb: bwyd bendigedig, cwmni da, a barbeciw llawn bwydydd Cymreig!
Yn Dragon, rydyn ni wedi cydweithio gyda Edwards of Conwy, Braces Bakery a Radnor Hills i ddod â dau rysáit BBQ tanllyd i chi sy’n siŵr o greu argraff. ‘Da ni hefyd yn rhoi cyfle i chi ENNILL ein Pecyn BBQ poeth sizzlo! 🎁
🍔 Rysáit 1: Byrgyrs Cig Eidion BBQ gyda Caws Cheddar Dragon
Nid byrgyrs cyffredin mo’r rhain! Rydyn ni wedi cyfuno byrgyrs cig eidion Edwards o Gonwy gyda Caws Cheddar Aeddfed Dragon sy’n toddi’n berffaith a llond llwy o Chutni Tomato’r Haul a Garlleg, i gyd wedi’u gweini mewn rholyn Tigr Braces wedi’i dostio. Ychwanegwch lysiau ffres a nionod wedi’u grilio, a bydd gennych y byrgyr perffaith – gyda gwydraid o Heartsease Sparkling Afal a Riwbob i’w yfed!
👉 Darllenwch y rysáit lawn yma:
Byrgyrs Cig Eidion BBQ gyda Cheddar Dragon a Chutni
🌭 Rysáit 2: Hot Dogs BBQ Firecracker
Os ydych chi’n hoffi ychydig o sbeis – Cwn Poeth gyda’r selsig Firecracker gan Edwards o Gonwy, wedi’u rhoi mewn rholiau bys, wedi’u topio ag nionod a haenen hael o Gaws Cheddar Dragon wedi’i gratio – gyda gwydraid o Heartsease Ginger Beer i ychwanegu tipyn mwy o dân! Mae’n dro sbeislyd ar glasur BBQ.
👉 Darllenwch y rysáit lawn yma:
Hot Dogs BBQ Firecracker
🎁 Ennill Pecyn BBQ Terfynol Dragon!
Rydyn ni’n rhoi pecyn BBQ i ffwrdd sy’n llawn cynyrch ar gyfer gwneud y ryseitiau BBQ uchod – popeth sydd ei angen arnoch i greu barbeciw bythgofiadwy yn yr ardd.
📲 Ewch i’n sianeli cymdeithasol i ddarganfod sut i gystadlu!