Caru caws? Caru Caws Dragon Wedi’i Wneud â Llaw? Yna byddwch wrth eich bodd â’n cystadleuaeth newydd!
Rydyn ni’n rhoi’r cyfle i chi ennill cyflenwad blwyddyn i deulu o’n detholiad newydd o gaws Dragon Wedi’i Wneud â Llaw!
Wedi’u haeddfedu yng Ngheudwll Llechi Llanfair yng ngogledd Cymru, mae cawsiau crefftus Dragon wedi’u henwi ar ôl gemau a metelau gwerthfawr – Cavern Platinum, cheddar aeddfed iawn, Cavern Ruby, red Leicester Cymreig, Cavern Emerald, cheddar wedi’i gymysgu â chennin ac yn olaf Cavern Onyx, cheddar gyda chwisgi Penderyn Cymreig arobryn.
Mae’r caws yn cael ei adael i aeddfedu’n ddwfn o fewn y ceudyllau mwyngloddio gwreiddiol sydd wedi’u troi’n ogofâu caws, sy’n ychwanegu dyfnder gwirioneddol i flas y caws. Mae’r broses hon yn ychwanegu nodweddion unigryw at flas a gwead y caws gyda chorff cadarnach a dyfnder blas sydd â nodau fflintaidd sawrus cyfoethog. Mae gan ein caws Dragon Wedi’i Wneud â Llaw darddiad gwirioneddol, ac mae ei stori wedi’i thrwytho yn hanes Cymru.
Sut i roi cynnig ar y gystadleuaeth
I gael cyfle i ennill y wobr wych hon, dilynwch ein sianeli cymdeithasol a thagio rhywun sy’n dwlu ar gaws ym mhost y gystadleuaeth. Gallwch ddod o hyd i’n sianeli ar Facebook, Instagram a Twitter.
Os nad ydych ar y cyfryngau cymdeithasol, neu ddim ond eisiau cyfle ychwanegol i ennill, gallwch hefyd danysgrifio i’n e-gylchlythyr yma.
CYNIGION YCHWANEGOL
Eisiau cynyddu eich siawns o ennill? Bydd pob pryniant o’n siop ar-lein yn ystod cyfnod y gystadleuaeth yn ennill DEG cais ychwanegol i chi yn y gystadleuaeth!
Ewch i siopa nawr: https://dragonwales.co.uk/cy/siop/
Mae’r telerau ac amodau llawn i’w gweld yma.*
Methu aros i roi cynnig ar ein detholiad Dragon Wedi’i Wneud â Llaw?
Ar gyfer stocwyr lleol neu i brynu ein Cheddar Dragon Wedi’i Wneud â Llaw:
https://dragonwales.co.uk/cy/categori/gyda-llaw/ neu https://dragonwales.co.uk/cy/stocwyr/
Ac yn olaf, i gael ryseitiau blasus fydd yn tynnu dŵr i’r dannedd, ewch i: https://dragonwales.co.uk/cy/ryseitiau/