Mae ein hanes a threftadaeth Cymreig yn bwysig i ni yma yn Dragon, mae wedi bod yn bleser cael gweithio gyda cwmni sydd yn rhannu yr un agwedd, gan greu creision gyda cynyrch Cymraeg i greu creision blasus a Chymreig.
Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr Jones Crisps, Geraint Hughes: “Yn ogystal â chreu ychwanegiad newydd gwych i’n dewis o Jones Crisps, rydym yn frwd dros hyrwyddo bwyd Cymreig a chynhyrchwyr Cymreig.
“Felly o’r safbwynt hwnnw, roedd gweithio efo Hufenfa De Arfon yn ddewis hawdd ac mae eu caws Cheddar Dragon gwych yn rhoi’r blas perffaith.
“Mae gen i ymlyniad emosiynol cryf i’r hufenfa, gyda pherthnasau o ddwy ochr fy nheulu wedi bod â chysylltiadau agos dros y degawdau, ac mae’r fferm gartref lle ces i fy magu yn aelod-gyflenwr o’r cwmni ffermwyr cydweithredol.”
“Dim ond dafliad carreg yw’r fferm o’r hufenfa yn Rhydygwystl ger Pwllheli ac mi wnes i ddod yma ar brofiad gwaith pan oeddwn i’n 15 oed.”
Mae’r prosiect yma wedi bod yn un cyffrous i’n Rheolwr Marchnata, Kirstie Jones.
Meddai: “Mae popeth yn dechrau gydag ansawdd y llaeth ac mae gennym hanes llwyddiannus iawn o gynhyrchu caws rhagorol sydd wedi ennill gwobrau.
“Caws Dragon yw ein brand blaenllaw ac rydym yn ei ddefnyddio i gyfleu neges yr hufenfa.
“Rydyn ni’n falch o fod yn Gymry ac rydyn ni’n defnyddio ryseitiau traddodiadol sydd wedi’u trosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth.
“Mae’n wych ein bo dyn medru ymuno efo brand Cymreig eiconig arall sydd â’r un ethos â ni, gan gefnogi cynhyrchwyr lleol a chymunedau lleol.
“Mae’r creision caws cheddar a nionyn newydd wedi mynd lawr yn dda iawn. Mae yna obeithion mawr oherwydd mae’r ymateb wedi bod yn gadarnhaol tu hwnt.