Pan fyddwch yn meddwl am gaws a gwin, mae pawb yn debygol o feddwl am wîn coch yn syth, ond nid dyma’r opsiwn gorau i bob math o gaws
Penderfynom baru’s cawsiau efo rhai o’u gwinoedd, dyma’r canlyniad:
Caws Mwyn a Caerffili wedi ei baru â Sauvignon Blanc
Roedd y gwin gwyn sych yn gweddu yn dda efo asidedd y Caerffili a gwead hufennog y caws mwyn ond ddim yn gorlethu’r blas
Red Leicester + Double Gloucester wedi eu paru â gwin rhosliw
Roedd asidedd ysgafn y gwin rhosliw yn gweddu efo’r Double Gloucester ond ddim yn lladd y blas.
Roedd y Red Leicester ychydig fwy cryf ond mae’r rhosliw ddigon cryf i weddu efo’r caws
Caerffili & Llugaeron wedi ei baru â Beaujolais
Mae’r caws yma’n bwerus ei flas ac yn felys oherwydd y llugaeron, roedd hyn yn gweddu’n dda efo’r Beaujolais ysgafn. Roedd melysrwydd y ddau efo’u gilydd yn bartneriaieth berffaith
Caws o’r Ceudwll paired with Tawny Port
Mae ein caws o’r ceudwll yn cael ei aeddfedu am 11 mis yn Hufenfa De Arfon cyn eu gludo I geudyllau llechi LLechwedd, Blaenau Ffestiniog
Roedd melysrwydd y port yn gweddu â’r caws aeddfed, hufennog cyfoethog yma
Caws Clasurol wedi ei baru â Bordeaux
Mae blas cryf a gwead hufennog ein caws clasurol yn paru’n dda â gwin ysgafn, hawdd ei yfed fel Bordeax
Caws Aeddfed wedi ei baru â Bordeaux
Mae blas melys ac ysgafn y ffrwythau tywyll yn cyd-fynd yn dda a’r caws aeddfed hufennog
Caws clasurol efo cennin wedi eu baru efo Merlot
Y gwin cyntaf i ni drio efo’r caws clasurol a cennin oedd y Beaujolais, ond roedd y caws rhy bwerus i’r gwin. Roedd y Merlot yn gryfach ac yn fwy melys na’r Beujolais ac felly’n gweddu’n dda efo’r caws cryf, blasus
Diolch am ddarllen a ein diwrnod yn paru caws a gwin, gadewch i fi wybod os hoffech i ni baru ein caws efo rhywbeth arall e.g. bisgedi, seidr a.y.y.b