CRWST
300g blawd plaen 150g Menyn Hallt Dragon 4-5 llwy fwrdd o ddŵr oer
LLENWAD
4 cenhinen wedi’i torri yn ddarnau 2cm 2 wy mawr 125ml hufen dwbl 1 llwy fwrdd o teim fres 6 llwy fwrdd o bys wedi’i rhewi ½ llwy fwrdd o berlysiau sych cymysg 100g caws claurol efo cennin wedi’i grymblo Halen a Pupur
OFFER
2 x tun tarten 6” gwaelod rydd Neu 1 x tun tarten 8” gwaelod rydd
CRWST
I wneud y crwst, rhowch y blawd a’r menyn mewn powlen fawr a’u rhwbio efo’i gilydd nes ei bod fel briwsion bara mân. Ychwanegwch y dŵr fesul llwyad nes fod y crwst yn dechrau dod at i gilydd. Gallwch hefyd neud hyn yn eich prosesydd bwyd, ei bylsio nes ei fod yn dod at ei gilydd i ffurfio pel. Rhowch y does yn yr oergell am 30 munud. Cynheswch eich popty i ffan 200C Roliwch y does allan a rhowch yn y 2 x tun 6” neu 1 tun 8”. Gadwch ‘chydig hongian dros ochr y tun. Priciwch dyllau yng ngwaelod y crwst efo fforc, rhowch bapur pobi drosto a llenwi’r tun efo ffa pobi. pobwch am 10-15 munud, tynwch y ffa a’r papur a’i bobi am 5 munud arall. Trimiwch y crwst sy’n hongian, a’i adael i oeri. Cadwch weddill y crwst a’i gadw i wneud pasty mawr (rysait isod)
LLENWAD
Torrwch y cennin mewn i ddarnau 2cm, stêmiwch am 5 munud a’i adael i oeri. Curwch y wyau mewn jwg, ychwanegwch hufen, perlysiau, halen, pupur a hanner y caws. ysgeintiwch weddill y caws ar waelod y darten, wedyn gosodwch y cennin ar ei ben (cadwch rhywfaint ar gyfer y pasty) Tolltwch ‘chydig o’r gymysgedd hufenog drost y cennin, ysgeintiwch y pys dros cyn rhoi gweddill y saws hufen drosto. Pobwch am 20 munud ar ffan 180C new yn frown euraidd ond dal yn sigledig yn y canol. Torrwch a mwynhewch!