Cyfle i ennill pâr o docynnau rygbi Chwe Gwlad URC!

CYSTADLEUAETH! Cyfle i ennill pâr o docynnau rygbi Chwe Gwlad URC!

Caru Dragon? Caru rygbi? Yna byddwch chi wrth eich bodd â’n cystadleuaeth newydd!

Rydyn ni’n rhoi cyfle i chi ennill pâr o docynnau rygbi Chwe Gwlad URC i wylio Cymru’n chwarae gartref yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd.

I ddathlu lansiad ein ryseitiau rhyngwladol hawdd newydd, rydyn ni eisiau eich herio gyda chystadleuaeth gawslyd.

Blaswch lwyddiant gyda chaws Dragon!

Sut i gystadlu

I gael cyfle i ennill y wobr wych hon, dilynwch ein holl sianeli cymdeithasol a thagio cyd-garwr caws a rygbi ym mhostiad y gystadleuaeth, yna hoffwch a rhannwch. Gallwch ddod o hyd i’n sianeli ar Facebook, Instagram a nawr Tik Tok.

Os nad ydych chi ar y cyfryngau cymdeithasol, neu eisiau cyfle ychwanegol i ennill, gallwch chi hefyd danysgrifio i’n e-gylchlythyr yma.

Ar gyfer ceisiadau bonws:

🧀 Meddyliwch yn greadigol a chrëwch rysáit arloesol sy’n cynnwys caws. Po fwyaf anarferol a chreadigol yw hi, gorau oll!

🧀 Postiwch eich syniad am rysáit yn yr adran sylwadau ar ein cyfryngau cymdeithasol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys yr hashnod #WillItCheese a thagiwch y bobl yr hoffech ei rannu â nhw am ymgais ychwanegol!

Os penderfynwch wneud eich rysáit, tynnwch lun neu fideo o’ch creadigaeth a’i rannu ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnodau #HerCawsDragon a #WillItCheese a byddwch yn cael eich cynnwys deirgwaith.

Bydd yr enillydd yn derbyn pâr o docynnau rygbi Chwe Gwlad URC, ynghyd â’r hawl i  frolio am gael y rysáit caws mwyaf creadigol!

Ffyrdd eraill o gystadlu:

Eisiau cynyddu eich siawns o ennill? Bydd pob pryniant o’n siop ar-lein yn ystod cyfnod y gystadleuaeth yn ennill DEG cais ychwanegol i chi yn y gystadleuaeth!

Ewch i siopa nawr: https://dragonwales.co.uk/cy/siop/

Mae’r telerau ac amodau llawn i’w gweld yma.*

Eisiau rhoi cynnig ar ein caws Dragon?

Ar gyfer stocwyr lleol ewch i https://dragonwales.co.uk/cy/stocwyr/

Ac yn olaf ond nid lleiaf, am ryseitiau i dynnu dŵr i’r dannedd, ewch i: https://dragonwales.co.uk/cy/ryseitiau/

Rhannwch y swydd hon ar eich hoff rwydwaith cymdeithasol!
Facebook
Twitter
LinkedIn